This training is suitable for:
• Voluntary sector advisers
• Caseworkers and Paralegals
• Solicitors
• Barristers

Cymraeg

Exceptional Case Funding can be applied for in any area of law where neither civil nor criminal legal aid is available, including immigration, family and employment cases. It is intended to be a human rights ‘safety net’ providing funding for legal assistance where someone’s EU rights will be breached if they do not have access to the assistance of a lawyer.  You do not have to be a lawyer to assist your client with an application for ECF. The course will take you through the applications process using practical examples both of the process and the kinds of cases that ECF can fund’

This course is free. Delegates booking will agree to have an invoice for £30 + VAT deferred and cancelled when they attend the course (it will only be issued if they fail to turn up after booking).

The training runs from 14.00 – 17.00 i.e. three hours with a short break and is led by PLP’s Katy Watts.
PLEASE NOTE we will offer a free light lunch from 13.00 for attendees.
Book online

Unlike other forms of legal aid, applications for ECF funding can be made by individuals but they will often need help with completing the forms and providing evidence to support their applications. PLP is offering this training so that front-line organisations, NGO’s and NfP’s who want to help their clients obtain legal aid have the knowledge to effectively support them. It is also open to legal aid providers and lawyers wanting to assist their clients.

Since the implementation of LASPO in 2013, PLP has made over 100 applications for ECF, and obtained funding for legal aid providers, individuals without representation and organisations without a legal aid contract. Growing numbers of people are applying for – and obtaining – ECF with 479 applications made in July – September 2016, the highest number in any quarter since the scheme was introduced. 46% of decisions in the same quarter resulted in ECF being granted – rising to 58% in immigration cases.

Changes to the merits regulations and to what the Legal Aid Agency (LAA) should count as ‘exceptional’, as well as new Guidance and new ECF procedures, including the possibility of funding to cover investigations into ECF, mean that the application procedure is more accessible than it used to be.

The training will assist advisers in both the voluntary sector and private practice in making the scheme work for clients, maximising your client’s chance of success when dealing with the LAA in making ECF applications. It will cover the application process, the relevant forms, what information and documents to provide, and how to identify cases which are more likely to be granted funding.

Book online

Please note that this course will not cover applications for ECF in inquest cases.

For both SRA and BSB CPD it is now your responsibility to review, record, reflect and report on the activities you have decided you require to develop.

For SRA continuing professional development (CPD) 
this course offers:
Greater knowldege and understanding of legal aid funding in the UK
Improved knowledge of how to get access to justice (especially for those advising in areas where legal aid has been withdrawn, or was never available).
The application of EU Law, convention articles 6 & 8 (Right to a fair trial/hearing and right to a private and family life) and Article 47 of the Charter of Fundamental Rights of the European Union.

Bar Standards continuing development

This course could be headed under any of the following (depending on what the intended application may be):

  • Legal knowledge and skills
  • Practice Management
  • Working with clients and others

Hyfforddiant Cael gafael ar Gyllid Achos Eithriadol cymorth cyfreithiol 

Dyddiad dechrau: Medi 25 2017

Mae’r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer y canlynol:
• Cynghorwyr yn y sector gwirfoddol
• Gweithwyr achos a Pharagyfreithwyr
• Cyfreithwyr
• Bargyfreithwyr
Ymddiheurwn nad oes fersiwn Gymraeg o’r disgrifiad cwrs ar gael ar hyn o bryd.  Byddwn yn mynd ati i ddarparu un cyn gynted ag y gallwn.
Gellir gwneud cais am Gyllid Achos Eithriadol ar gyfer unrhyw faes cyfreithiol lle nad oes cymorth cyfreithiol troseddol neu sifil ar gael, gan gynnwys achosion mewnfudo, teulu a chyflogaeth.  Bwriadwyd ef i weithredu fel ‘rhwyd diogelwch’ ar gyfer hawliau dynol drwy ddarparu cyllid tuag at gymorth cyfreithiol lle bydd hawliau UE unigolyn yn cael eu torri os nad ydynt yn gallu cael cymorth cyfreithiwr.   Nid oes yn rhaid ichi fod yn gyfreithiwr i helpu eich cleient gyda chais am Gyllid Achos Eithriadol.  Bydd y cwrs yn eich tywys drwy’r broses gwneud cais, gan ddefnyddio enghreifftiau ymarferol o’r broses a’r mathau o achosion y mae Cyllid Achos Eithriadol yn gallu eu hariannu.

Mae’r cwrs am ddim. Bydd cynrychiolwyr sy’n archebu lle yn cytuno i dderbyn anfoneb am £30 + TAW a fydd yn cael ei gohirio a’i chanslo pan fyddant yn mynychu’r cwrs (dim ond os nad ydynt yn dod i’r digwyddiad y bydd yr anfoneb yn cael ei chyflwyno).

Cynhelir yr hyfforddiant o 1400 tan 1700 h.y. tair awr gydag egwyl fer, dan arweiniad Katy Watts o’r PLP.
NODYN:  byddwn yn cynnig cinio ysgafn am ddim i fynychwyr o 13.00 ymlaen.
Archebu ar-lein

Yn wahanol i fathau eraill o gymorth cyfreithiol, caiff unigolion wneud cais am Gyllid Achos Eithriadol ond yn aml bydd angen help arnynt i lenwi’r ffurflenni a rhoi tystiolaeth i ategu eu ceisiadau. Mae’r PLP yn cynnig yr hyfforddiant hwn er mwyn i sefydliadau rheng flaen, cyrff anllywodraethol a chyrff dielw sydd am helpu eu cleientiaid i gael cymorth cyfreithiol gael y wybodaeth i’w cefnogi’n effeithiol.  Mae ar gael hefyd i ddarparwyr cymorth cyfreithiol a chyfreithwyr sydd am gynnig cymorth i’w cleientiaid.

Ers gweithredu’r Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr yn 2013, mae’r PLP wedi gwneud dros 100 o geisiadau am Gyllid Achos Eithriadol, ac wedi sicrhau cyllid ar gyfer darparwyr cymorth cyfreithiol, unigolion heb gynrychiolaeth a sefydliadau heb gontract cymorth cyfreithiol.   Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud cais am Gyllid Achos Eithriadol, ac yn ei gael.  Gwnaed 479 cais rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2016, y nifer fwyaf erioed yn unrhyw chwarter ers cyflwyno’r cynllun. Yng nghyswllt 46% o’r penderfyniadau a wnaed yn yr un chwarter, caniatawyd Cyllid Achos Eithriadol, gyda’r ganran yn codi i 58% mewn achosion mewnfudo.

Oherwydd newidiadau i’r rheoliadau teilyngdod ac i’r hyn y dylai’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (LAA) ei ystyried yn ‘eithriadol’, ynghyd â Chanllawiau a gweithdrefnau newydd ar gyfer Cyllid Achos Eithriadol, gan gynnwys y posibilrwydd o gael cyllid i dalu am ymchwiliadau i Gyllid Achos Eithriadol, mae’r drefn gwneud cais yn haws nag yr arferai fod.

Bydd yr hyfforddiant o gymorth i gynghorwyr yn y sector gwirfoddol ac mewn ymarfer preifat o ran cael y cynllun i weithio i gleientiaid, gan sicrhau bod gan eich cleient y siawns gorau bosib o lwyddo yn ei ymwneud â’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol wrth wneud ceisiadau am Gyllid Achos Eithriadol.     Bydd yn cwmpasu’r broses gwneud cais, ffurflenni perthnasol, pa wybodaeth i’w rhoi a pha ddogfennau i’w darparu, a sut i adnabod achosion sy’n fwy tebygol gael cyllid.

Archebu ar-lein

Nodwch na fydd y cwrs hwn yn ymdrin â cheisiadau am Gyllid Achos Eithriadol mewn achosion cysylltiedig â chwest.

Yng nghyswllt DPP SRA a BSB, eich cyfrifoldeb chi yw adolygu, cofnodi, myfyrio ac adrodd ar y gweithgareddau rydych chi wedi penderfynu y mae angen i chi eu datblygu.

O ran datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yng nghyswllt SRA, gall y cwrs hwn gynnig y canlynol:
Rhagor o wybodaeth a dealltwriaeth well o gyllid cymorth cyfreithiol yn y DU
Gwybodaeth well ynghylch sut i gael mynediad at gyfiawnder (yn arbennig o ran y rheini sy’n cynghori mewn meysydd lle nad oes cymorth cyfreithiol bellach ar gael, neu lle nad yw erioed wedi bod ar gael).
Gweithredu Cyfraith yr UE, erthyglau 6 ac 8 yn y confensiwn (Yr hawl i gael treial/gwrandawiad teg a’r hawl i gael bywyd preifat a theuluol) ac Erthygl 47 Siarter Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd.  

O ran datblygiad parhaus yng nghyswllt Safonau’r Bar:
Gellid cynnwys y cwrs hwn o dan unrhyw rai o’r canlynol (yn dibynnu ar sut y bwriedir ei ddefnyddio):

  • Sgiliau a gwybodaeth leol
  • Rheoli Ymarfer
  • Gweithio gyda chleientiaid ac eraill

Archebu ar-lein

Deeside CAB
Cable St, Connah’s Quay, Connahs Quay CH5 4DZ

http://booking.publiclawproject.org.uk/NBooking.php?conf=ECF2017_5