Cymraeg       Book on-line

Archebu ar-lein

Monday 20 June 2016, 9.30 (registration) 10.00 – 17.30
6 CPD/BSB

Morning Chair: Jackie Jones, Professor of Feminist Legal Studies, UWE

10.00 – 10.10 Introduction: Jo Hickman, Director, The Public Law Project

10.10 – 10.30 Opening address:  The Rt Hon Lord Justice Elias

10.30 – 11.15 Recent public law cases in Wales
This session will  look at recent cases in the administrative court in Wales, with an emphasis on claims by community groups and those affected by decisions across education, health and local authority services.
Michael Imperato, Watkins and Gunn

Break 11.15 – 11.30 break

11.30 – 12.00 Who can bring a judicial review against whom?
A look at;
(i) When does a person have sufficient standing to bring a claim;
(ii)  What constitutes a public body;
(iii) Interested parties and interveners.
Specific considerations that apply to charities and community groups will be considered throughout.
Christian J Howells, 30 Park Place Chambers

12.00 – 13.00  Morning breakout sessions (pick one of three)

1. Judicial Review: Update on procedure and funding
This session will look at

  • Judicial review procedure, across the Administrative Court and the Upper Tribunal, including the Criminal Justice and Courts Act 2015
  • Funding public law cases
  • Update on legal challenges to the restriction of civil legal aid

David Gardner, ACO, UT(IAC), & Planning Court Lawyer, Administrative Court Office (Wales and the Western Circuit),
Fiona McGhie, Irwin Mitchell LLP, and
Katy Watts, Trainee Solicitor and Justice First Fellow, The Public Law Project

2.     Refugee and Asylum rights in Wales; what does the future hold and what can we do about it?
This is a convened discussion group, inviting advisers and legal practitioners in Wales concerned with the implementation of the Immigration Act 2016 and other imminent legal and practical problems facing those seeking asylum and refuge in Wales.
Convener: Zoe Harper, Legal Officer, Immigration Law Practitioners’ Association (ILPA)

3. Data protection update

  • Brief overview of EU measures in this field including the draft Data Protection Directive for the police and criminal justice sector.
  • Cases in Europe: Digital Rights Ireland, Schrems, Davis & Watson
  • Cases in the UK: Vidal-Hall v Google (to be heard by Supreme Court)
  • Going forwards: what it all means

Stephen Cragg QC, Monckton Chambers & Trustee, the  Public Law Project

13.00 – 14.00 lunch

Afternoon Chair: Lisa Morgan, Partner, Hugh James

14.00 – 15.00 Afternoon Sessions. Pick one of three.

1. What is the ‘The Well-being of Future Generations Act 2015’ and what does it mean for Wales
A look at the core duties contained within the Act which came into force in April 2016 and the national indicators created to measure the achievement of the well-being goals. This session will answer questions such as: What are the Well-Being goals?  Who is the Future Generations Commissioner and what is their function? What will be expected of public bodies in Wales?
Adam Hundt & Gareth Sims, Deighton Pierce Glynn

2. Human Rights in the Court of Protection
There will be a particular focus on developments in the case law concerning how a person’s right to liberty under Article 5 ECHR may be protected following the landmark decision of Cheshire West and Chester Council v P [2014] UKSC 19. Topics will include:

  • The Court of Protection and the ECHR – an overview
  • Deprivation of liberty – where have we got to and what next?
  • Children and deprivation of liberty
  • Practical steps to bringing claims under the HRA 1998 in the Court of Protection – procedure and remedies

Rhys Hadden, Guildhall Chambers and
Fiona McGhie, Irwin Mitchell LLP

3. Challenging decisions to refuse NHS funded continuing healthcare
This workshop will look at the health / Social Care divide and the NHS assessment and appeals process for Continuing Healthcare in Wales.  It will also look at current pitfalls and how to challenge them in accordance with the National Framework in Wales and the role of the PSOW.
Lisa Morgan, Partner, Hugh James

15.00  break

15.20 From bedroom to courtroom: challenging the ‘bedroom tax’
This year the Court of Appeal, applying the Human Rights Act 1998, held that the introduction of size criteria for housing benefit in the social rented sector discriminates against both disabled children who need overnight care and victims of domestic violence living in Sanctuary Scheme homes. The decision was subsequently appealed and heard in the Supreme Court in March 2016, alongside other similar cases. This session will consider this and other litigation concerning the controversial ‘bedroom tax’.
Sophie Earnshaw, Trainee Solicitor and Justice First Fellow, Child Poverty Action Group (CPAG)
Caoilfhionn Gallagher, Doughty Street Chambers

15.50 Children’s rights and legal practice in Wales
Wales has the most developed legislation of all the constituent parts of the United Kingdom on human rights of children, yet the least developed infrastructure for effective assertion of rights in practice. This presentation will

  • Provide a critical analysis of the law, as it applies in Wales
  • Suggest the reasons for the deficit in practical support for effective legal challenge.
  • Present the plans for establishment of a Children’s Legal Centre under the auspices of the Wales Observatory on Human Rights of Children and Young People

Ruth Henke QC, 30 Park Place &
Ms Jane Williams, Associate Professor, College of Law and Criminology, Swansea University

16.20 break

16.30 Panel: Constitutional futures and legal practice in Wales

With a redrafted Wales Bill,  a new UK Bill of Rights and a potential Brexit all on the horizon, what practical effects could these potential constitutional changes have on the provision and delivery of legal and advice services in Wales, and what effect on those seeking such services?

Chair: Huw Williams, Partner, Public Law and Vice-Chair, Geldards LLP
Panellists:
Caoilfhionn Gallagher, Doughty Street Chambers
David Gordon Hughes, 30 Park Place Chambers
Richard Rawlings, Professor of Public Law University College London and Life Fellow of the Institute of Welsh Affairs
Ms Jane Williams, Associate Professor, College of Law and Criminology, Swansea University

17.20 Closing remarks: Steve Cragg QC, the Public Law Project

30 park place logo    Irwin Mitchell logo

Cardiff Uni         WCVA logo

Standard Fee – private practice and public bodies: £192.00 (£160.00 + VAT) per delegate
Discounted Fee – charities, voluntary or community sector, students, trainee solicitors, pupil barristers: £90.00 (£75.00 + VAT) per delegate
Advisers Fee – Advisers in CABs, Age Cymru / Age UK, student advisers and lay advocates working in the voluntary sector: £72.00 (£60.00 + VAT) per delegate
50% off all third delegates when you book three delegates from  the same organisation together.

Delegate pack notes, lunch and refreshments all provided.
Payment: You may select either to pay now using your debit or credit card (for a 5% discount) or be invoiced.
For further information please contact Ade Lukes a.lukes@publiclawproject.org.uk or phone 020 7843 1266.

 

Y Prosiect Cyfraith Gyhoeddus, Cynhadledd Cymru, 2016 Cyfraith Gyhoeddus a Hawliau Dynol

Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd, Dydd Llun 20 Mehefin 2016, 9.30 (cofrestru) 10.00 – 17.30 o’r gloch

Cadeirydd Bore:Jackie Jones, Athro Astudiaethau Cyfreithiol Ffeministaidd yn Ysgol y Gyfraith Bryste

10.00 – 10.10 Cyflwyniad: Jo Hickman, Cyfarwyddwr, y Prosiect Cyfraith Gyhoeddus

10.10 – 10.30 Anerchiad Agoriadol: Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Ustus Elias

10.30 – 11.15 Achosion cyfraith gyhoeddus diweddar yng Nghymru
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar achosion diweddar yn y llys gweinyddol yng Nghymru, gyda phwyslais ar hawliadau gan grwpiau cymunedol a rhai sydd wedi’u heffeithio gan benderfyniadau mewn gwasanaethau addysg, iechyd ac awdurdodau lleol.
Michael Imperato, Watkins and Gunn

11.15 – 11.30 egwyl

11.30 – 12.00 Pwy all ddod ag adolygiad barnwrol yn erbyn pwy?
Golwg ar;
(i) Pa bryd fydd gan unigolyn sail ddigonol i wneud hawliad;
(ii) Yr hyn sy’n cael ei gyfrif fel corff cyhoeddus;
(iii) Partïon â diddordeb ac ymyrwyr.
Bydd ystyriaethau penodol sy’n gymwys i elusennau a grwpiau cymunedol yn cael eu hystyried trwy gydol y sesiwn.
Christian J Howells, 30 Park Place Chambers

12.00 – 13.00 Sesiynau grŵp y bore (dewiswch un o dair sesiwn)

1. Adolygiadau barnwrol: Diweddariad ar weithdrefnau a chyllido
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar
• Gweithdrefnau adolygiadau barnwrol, yn y Llys Gweinyddol a’r Uwch Dribiwnlys, gan gynnwys Deddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015
• Ariannu achosion cyfraith gyhoeddus
• Diweddariad ar heriau cyfreithiol i’r cyfyngiad ar gymorth cyfreithiol sifil

David Gardner, ACO, UT(IAC), a Chyfreithiwr y Llys Cynllunio, Swyddfa’r Llys Gweinyddol (Cymru a’r Gylchdaith Orllewinol),
Fiona McGhie, Irwin Mitchell LLP, a
Katy Watts, Cyfreithiwr dan Hyfforddiant a Chymrawd Cyfiawnder yn Gyntaf, y Prosiect Cyfraith Gyhoeddus

2. Hawliau Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yng Nghymru; beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig a beth allwn ni wneud yn ei gylch?
Mae hwn yn grŵp trafod wedi’i gynnull, sy’n gwahodd cynghorwyr ac ymarferwyr cyfreithiol yng Nghymru sy’n gysylltiedig â gweithredu Deddf Mewnfudo 2016 a phroblemau cyfreithiol ac ymarferol eraill sydd ar ddyfod sy’n wynebu’r sawl sy’n chwilio am loches yng Nghymru.
Cynullydd: Zoe Harper, Swyddog Cyfreithiol, Cymdeithas Ymarferwyr y Gyfraith Fewnfudo (ILPA)

3. Diweddariad ar ddiogelu data
• Trosolwg byr ar fesurau’r UE yn y maes hwn gan gynnwys y Gyfarwyddeb Diogelu Data ddrafft ar gyfer yr heddlu a’r sector cyfiawnder troseddol.
• Achosion yn Ewrop: Digital Rights Ireland, Schrems, Davis & Watson
• Achosion yn y DU: Vidal-Hall v Google (i’w glywed gan y Goruchaf Lys)
• Edrych i’r dyfodol: yr hyn mae’n ei olygu

Stephen Cragg QC, Monckton Chambers ac Ymddiriedolwr, y Prosiect Cyfraith Gyhoeddus

13.00 – 14.00 cinio

Cadeirydd y prynhawn: Lisa Morgan, Hugh James

14.00 – 15.00 Sesiynau grŵp y prynhawn (Dewiswch un o dair sesiwn)

1. Beth yw ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015’ a beth mae’n ei olygu i Gymru?
Golwg ar y dyletswyddau craidd a geir yn y Ddeddf a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2016 a’r dangosyddion cenedlaethol a grëwyd i fesur cyflawniad yr amcanion llesiant. Bydd y sesiwn hon yn ateb cwestiynau fel: Beth yw’r amcanion Llesiant? Pwy yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a beth yw ei swyddogaeth? Beth a ddisgwylir gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru?
Adam Hundt & Gareth Sims, Deighton Pierce Glynn

2. Hawliau Dynol a’r Llys Gwarchod
Bydd pwyslais penodol ar ddatblygiadau yn y gyfraith achos sy’n ymwneud â sut y bydd hawl unigolyn i ryddid o dan Erthygl 5 Siarter Hawliau Dynol Ewrop (ECHR) yn cael ei warchod yn dilyn penderfyniad pwysig Cyngor Cheshire West and Chester v P [2014] UKSC 19. Bydd y pynciau trafod yn cynnwys:
• Y Llys Gwarchod ac ECHR – trosolwg
• Colli rhyddid – ble’r ydym ni wedi cyrraedd a beth nesaf?
• Plant a cholli rhyddid
• Camau ymarferol i ddod â hawliadau o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 yn y Llys Gwarchod – gweithdrefnau a rhwymedi
Rhys Hadden, Guildhall Chambers a
Fiona McGhie, Irwin Mitchell LLP

3. Herio penderfyniadau i wrthod gofal iechyd parhaus a ariennir gan y GIG
Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar y rhaniad rhwng iechyd / Gofal Cymdeithasol a phroses asesu ac apeliadau’r GIG ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus yng Nghymru. Bydd hefyd yn edrych ar y peryglon cyfredol a sut i’w herio yn unol â’r Fframwaith Cenedlaethol yng Nghymru a rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Lisa Morgan, Partner, Hugh James

15.00 egwyl

15.20 O’r ystafell wely i ystafell y llys: herio’r dreth ystafell wely
Eleni, mynnodd y Llys Apêl, wrth weithredu Deddf Hawliau Dynol 1998, bod cyflwyno meini prawf maint ar gyfer budd-dal tai yn y sector rhentu preifat yn gwahaniaethu yn erbyn plant anabl sydd angen gofal dros nos a dioddefwyr trais domestig sy’n byw mewn cartrefi Cynllun Noddfa. Bu apêl yn erbyn y penderfyniad a chlywyd hwnnw yn y Goruchaf Lys ym mis Mawrth 2016, ochr yn ochr ag achosion tebyg. Bydd y sesiwn hon yn ystyried hyn ac ymgyfreitha arall yn ymwneud â’r ‘dreth ystafell wely’ ddadleuol.
Sophie Earnshaw, Cyfreithiwr dan Hyfforddiant a Chymrawd Cyfiawnder yn Gyntaf, Y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant (CPAG)
Caoilfhionn Gallagher, Doughty Street Chambers

15.50 Hawliau plant ac ymarfer cyfreithiol yng Nghymru
Cymru sydd â’r ddeddfwriaeth fwyaf datblygedig o holl rannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig ar hawliau dynol plant, ac eto’r seilwaith lleiaf datblygedig i arddel hawliau mewn ymarfer. Bydd y cyflwyniad hwn yn
• Cynnig dadansoddiad beirniadol o’r gyfraith, fel mae’n cael ei gweithredu yng Nghymru
• Awgrymu’r rhesymau am y diffyg mewn cymorth ymarferol ar gyfer her gyfreithiol effeithiol
• Cyflwyno’r cynlluniau ar gyfer sefydlu Canolfan Gyfreithiol Plant o dan nawdd Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc

Ruth Henke QC, 30 Park Place a
Ms Jane Williams, Athro Cyswllt, Coleg y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Abertawe

16.20 egwyl

16.30 Panel: Dyfodol cyfansoddiadol ac ymarfer cyfreithiol yng Nghymru

Gyda Bil Llywodraeth Cymru wedi cael ei ailddrafftio, Deddf Hawliau Dynol newydd y DU a’r posibilrwydd o adael yr UE i gyd ar y gorwel, pa effeithiau ymarferol a allai’r newidiadau cyfansoddiadol posibl hyn eu cael ar ddarparu a chyflwyno gwasanaethau cyfreithiol a chynghori yng Nghymru, a pha effaith fydd ar y sawl sydd angen gwasanaethau o’r fath?

Cadeirydd: Huw Williams, Partner, Cyfraith Gyhoeddus ac Is-gadeirydd, Geldards LLP
Aelodau’r Panel:
Caoilfhionn Gallagher, Doughty Street Chambers
David Gordon Hughes, 30 Park Place Chambers
Richard Rawlings, Athro Cyfraith Gyhoeddus, Coleg Prifysgol Llundain, a Chymrawd Oes y Sefydliad Materion Cymreig
Ms Jane Williams, Athro Cyswllt, Coleg y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Abertawe

17.20 Sylwadau i gloi,Steve Cragg QC, y Prosiect Cyfraith Gyhoeddus

ARCHEBU AR-LEIN

Ffi Safonol – practis preifat a chyrff cyhoeddus:
£192.00 (£160.00 + TAW) am bob cynrychiolydd

Ffi Ostyngol – elusennau, y sector gwirfoddol neu gymunedol, myfyrwyr, cyfreithwyr dan hyfforddiant, bargyfreithwyr dan hyfforddiant:
£90.00 (£75.00 + TAW) am bob cynrychiolydd

Ffi Cynghorwyr – Cynghorwyr mewn CABau, Age Cymru / Age UK, cynghorwyr dan hyfforddiant ac eiriolwyr lleyg yn gweithio yn y sector gwirfoddol:
£72.00 (£60.00 + TAW) am bob cynrychiolydd
Gostyngiad o 50% i’r trydydd cynrychiolydd pan fydd tri yn archebu o’r un mudiad ar yr un pryd.

Mae ffioedd yn cynnwys nodiadau’r pecyn cynrychiolwyr, lluniaeth a chinio.
Taliad: Cewch ddewis naill ai talu yn awr gan ddefnyddio eich cerdyn debyd neu gredyd (i gael gostyngiad o 5%) neu ddewis cael anfoneb.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ade Lukes a.lukes@publiclawproject.org.uk neu ffoniwch 020 7843 1266.

30 park place logo    Irwin Mitchell logo

Cardiff Uni         WCVA logo