Bilingual PDF Brexit, access to justice, legal aid, migration and settled status, online courts, strategic legal work Brexit, mynediad at gyfiawnder a chymorth cyfreithiol, ymfudo a statws preswylydd sefydlog, llysoedd ar-lein, Strategaeth gyfreithiol Cymraeg Cynhadledd Cymru Public Law Project 2019 Adeilad Morgannwg Prifysgol Caerdydd, Dydd Iau 25 Ebrill 9.30 – 17.10 10.00 Cyflwyniad Jo Hickman, Cyfarwyddwr, Public Law Project 10.10 Anerchiad Agoriadol Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 10.30. Darparu cyfreithiau yn lle cyfreithiau’r UE yng Nghymru ar ôl Brexit: Datganoli vs dirprwyo Gyda chynifer o gyfreithiau’r UE i gael eu disodli yn y DU ar ôl Brexit, mae’r sesiwn hon yn edrych ar yr effaith yng Nghymru ar draws yr amgylchedd, bwyd ac amaethyddiaeth, a’r materion sy’n codi mewn perthynas â llywodraethu datganoledig. Cadeirydd: Alison Pickup, Public Law Project Jeremy Miles AC, Cwnsler Cyffredinol Cymru Alexandra Sinclair, Public Law Project Annie Smith, RSPB Cymru 11.30 egwyl 11.45 Digideiddio a llysoedd ar-lein – Bygythiadau a chyfleoedd i Gymru Gyda’r Llywodraeth yn San Steffan eisoes wedi ymrwymo i ddigideiddio, mae’r sesiwn hon yn edrych ar y sialensiau i Gymru, yn cynnwys y sialensiau a achosir gan fynediad a llythrennedd digidol, a’r cyfleoedd o ystyried gwahaniaethau o ran maint, uchelgeisiau posibl a thribiwnlysoedd datganoledig. Dr Huw Pritchard, Prifysgol Caerdydd Dr Joe Tomlinson, Public Law Project a Kings College Llundain 12.30 Brexit a Mewnfudo: Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a Chymunedau mewn Sefyllfa Fregus yng Nghymru Mae tua 80 000 o ddinasyddion yr UE yn byw yng Nghymru o ganlyniad i’r rheolau rhyddid i symud. Bydd angen i’r bobl hyn wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE er mwyn sicrhau statws mewnfudo newydd yn y DU cyn bod yr hawliau preswylio o dan y fframwaith rhyddid i symud yn cael eu diddymu. Mae’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn her weinyddol i Lywodraeth y DU. Mae’n golygu prosesu miliynau o geisiadau o fewn cyfnod cymharol fyr o amser ac mae’n dibynnu ar unigolion i wneud cais i’r Cynllun. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar y materion sy’n wynebu unigolion sy’n gwneud cais i’r Cynllun o gymunedau yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy’n debygol o wynebu anawsterau o ran gwneud ceisiadau llwyddiannus. Bethan Bateman, Pennaeth Ymfudo, Tîm y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru Hayley Morgan, Teithio Ymlaen: Gwasanaeth Cynghori ac Eiriolaeth Sipsiwn, Roma a Theithwyr Wiard Sterk, The 3Million 13.30 Papur ymgynghori Comisiwn y Gyfraith ar Symleiddio’r Rheolau Mewnfudo Lisa Smith a Stephanie Theophanidou Tîm Cyfraith Gyhoeddus Comisiwn y Gyfraith 13.40 Cinio 14.30 Sesiwn y prynhawn Mynediad at Gyfiawnder yng Nghymru A oes gan bobl yng Nghymru fynediad digonol at gynrychiolaeth a’r llysoedd i amddiffyn eu hawliau a sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ymddwyn yn gyfreithlon? Bydd y sesiwn hon yn edrych ar fynediad at gymorth cyfreithiol, cynrychiolaeth ac adolygiad barnwrol. Cadeirydd: Polly Brendon, Public Law Project Dr Sarah Nason, Prifysgol Bangor Jess Mant, Prifysgol Caerdydd Panelwyr eraill (i’w cadarnhau) 15.30 egwyl 15.50 sesiynau grŵp – Dewiswch un o dri Cymorth cyfreithiol Gweithdy ar gyfer ymarferwyr fydd hwn i drafod cymorth cyfreithiol yn dilyn yr Adolygiad ar ôl Gweithredu o LASPO a gynhaliwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac yn sgil cyhoeddi “Legal Support Action Plan” y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Byddwn yn gofyn yn benodol am farn a chyfraniad darparwyr cymorth cyfreithiol presennol yng Nghymru. Bydd y meysydd i’w trafod yn cynnwys: Pa mor hawdd ei ddeall yw’r cynllun Cyllid Achos Eithriadol a sut caiff ei ddefnyddio Cael gwared ar y porth ffôn gorfodol ar gyfer achosion yn ymwneud â Gwahaniaethu, Addysg a Dyledion Yr adolygiad a addawyd o’r meini prawf cymhwysedd ariannol ar gyfer cymorth cyfreithiol Polly Brendon, Public Law Project Joanna Gregson, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Carol Storer, Cyfarwyddwr Dros Dro, Legal Action Group 2. Gwaith cyfreithiol strategol yng Nghymru Mae’r sesiwn hon yn edrych ar ddefnydd strategol o’r gyfraith drwy waith achos ac ymgyrchu. Bydd yr astudiaethau achos yn cynnwys dyfarnu menywod sydd â dyledion treth gyngor yn droseddwyr a’r dreth ystafell wely. Cadeirydd: Owain Rhys James, Civitas Law Carla Clarke, y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant a Sara Lomri, Public Law Project Naima Sakande, y Ganolfan Apeliadau Troseddol 3. Penderfynu ar gyfraith gyhoeddus yng Nghymru Mae nifer cynyddol o ddyletswyddau ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ‘ystyried’, ‘rhoi sylw dyledus i’ neu ‘gymryd pob cam rhesymol’ i warchod gwahanol hawliau a buddiannau. Fodd bynnag, ychydig iawn, os oes unrhyw rai o gwbl, o’r dyletswyddau hyn sy’n rhoi hawliau penodol i iawn i unigolion. Bydd ein panel yn trafod a all y dyletswyddau hyn mewn gwirionedd arwain at well penderfyniadau yn niffyg hawliau unigol o’r fath, a’r berthynas rhwng hyn a mynediad at gyfiawnder yng nghyfraith gyhoeddus Cymru. Cadeirydd: Sarah Nason, Prifysgol Bangor Emyr Lewis, Blake Morgan Sara Lomri, Public Law Project Katrin Shaw, Ombwdsmon Sector Cyhoeddus Cymru Rhodri Williams QC, 30 Park Place a Linenhall Chambers 16.50 Diweddariad gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru Yn dilyn yr ymgynghoriad ar ddyfodol cyfiawnder yng Nghymru, bydd Comisiynydd yn rhoi diweddariad cyn yr adroddiad sydd i’w gyhoeddi yn 2019. Yr Athro Elwen Evans QC, Prifysgol Abertawe a’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru 17.10 Gorffen FFIOEDD CYNRYCHIOLWYR: SAFONOL 120 + TAW GOSTYNGIAD 80 + TAW TOCYN CYNGHORWYR 60.00 + TAW FFI MYFYRWYR 10 + TAW Cliciwch yma i archebu sesiynau grŵp. Cardiff university Glamorgan Building, Thursday 25 April 10.00 Introduction Jo Hickman, Director, Public Law Project 10.10 Opening address Julie Morgan AM, Deputy Minister for Health and Social Services 10.30 Replacing EU law in Wales post-Brexit: Devolution vs delegation With swathes of EU law being replaced in a post-Brexit UK this session looks at the impact in Wales, across environment, food and agriculture, and issues arising with devolved governance. Chair: Alison Pickup, Public Law project Jeremy Miles AM, Counsel General for Wales Alexandra Sinclair, Public Law Project (SIFT project lead) Annie Smith, RSPB Cymru 11.30 break (with snacks!) 11.45 Digitalisation and online courts – Threats and opportunities for Wales With the Government in Westminster already committed to digitalisation, this session looks at the challenges for Wales, including those posed by digital access and literacy, and the opportunities given differences in scale, potential ambitions and devolved tribunals. Dr Huw Pritchard, Cardiff University Dr Joe Tomlinson, Public Law Project and Kings College London 12.30 Brexit and Immigration: The EU Settlement Scheme and Vulnerable Communities in Wales There are around 80 000 EU citizens living in Wales as a function of the free movement rules. These people will need to apply to the EU Settlement Scheme to secure a new immigration status in the UK before the rights of residence under the free movement framework are extinguished. The EU Settlement Scheme is a challenging administrative undertaking for the UK Government. It requires the processing of millions of applications within a relatively short period of time and relies on individuals making applications to the Scheme. This session will look at the issues being faced by individuals applying to the Scheme from communities in Wales, especially by those likely to face difficulties in making successful applications. Hayley Morgan, Travelling Ahead: Gypsy, Roma and Traveller Advice & Advocacy Service Wiard Sterk, The 3Million Bethan Bateman, Head of Migration within the Welsh Government EU Transition Team 13.30 Law Commission consultation paper on the Simplification of the Immigration Rules Lisa Smith and Stephanie Theophanidou Law Commission Public Law Team 13.40 Lunch 14.30 Afternoon session Access to justice in Wales Do people in Wales have adequate access to representation and the courts to vindicate their rights and ensure public bodies behave lawfully? This session will look at access to legal aid, representation and judicial review. Chair: Polly Brendon, Public Law Project Salli Edwards, Chief Executive, Flintshire Citizen’s Advice Michael Imperato, Watkins and Gunn Jess Mant, Cardiff University Dr Sarah Nason, Bangor University 15.30 break 15.50 afternoon breakouts – please choose one of three Legal aid This will be a workshop for practitioners to discuss the shape of legal aid following the MOJs Post Implementation Review (PIR) of LASPO, and the publication of the MoJ’s “Legal Support Action Plan.” We will particularly be seeking the views and contribution of current legal aid providers in Wales. Areas to discuss will include: The accessibility and use of the Exceptional Case Funding scheme The removal of the mandatory telephone gateway for Discrimination, Education and Debt cases The promised review of the financial eligibility criteria for legal aid Polly Brendon, Public Law Project Carol Storer, Interim Director, Legal Action Group Joanna Gregson, Equalities and Human Rights Commission Strategic legal work in Wales This session looks at strategic use of the law through both casework and campaigning. Case studies will include the criminalisation of women who are council tax debtors and the bedroom tax case. Chair: Owain Rhys James, Civitas Chambers Carla Clarke, Child Poverty Action Group (CPAG) Sara Lomri, Public Law Project Naima Sakande, Centre for Criminal Appeals 3. Public law decision making in Wales An increasing number of duties on public bodies in Wales require them to ‘take into account’, to ‘have due regard’ to or to ‘take all reasonable steps’ to protect various rights and interests. However, few, if any, of these duties give rise to specific rights of redress for individuals. Our panel discusses whether these duties can really lead to better decision-making in the absence of such individual rights, and how this relates to access to justice in Welsh public law. Sarah Nason, Bangor University Rhodri Williams QC, 30 Park Place and Linenhall Chambers Katrin Shaw, Public Sector Ombudsman for Wales Emyr Lewis, Blake Morgan 16.50 Update from the Commission on Justice in Wales Following their consultation on the future of justice in Wales, a Commissioner gives an update prior to their forthcoming report in 2019. Professor Elwen Evans QC, Swansea University and Commission on Justice in Wales 17.10 finish Delegate fees: Standard 120 + VAT Discounted 80 + VAT Advisers 60.00 + VAT Student fee 10 + VAT Follow this link to select breakout session here. Download the flyer here. Events 25 April 2019 10:00 am - 5:30 pm Book now Cardiff University Glamorgan Building King Edward VII AvenueCardiffCF10 3WT Standard TicketPrice: £120.00VAT: £0.00Total: £120.00Discounted TicketPrice: £80.00VAT: £0.00Total: £80.00Advisers TicketPrice: £60.00VAT: £0.00Total: £60.00Student TicketPrice: £10.00VAT: £0.00Total: £10.00 ShareClick to share on Twitter (Opens in new window)Click to share on Facebook (Opens in new window)Click to share on LinkedIn (Opens in new window) Book a place Bookings are closed for this event.